22 Mai 2015
Annwyl Weinidog
Proses benodi Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Cawsom ein hysbysu'n ddiweddar o'r broses sy'n mynd rhagddi o benodi Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Fe wyddoch bod swyddi tebyg ar lefel y DU yn destun gwrandawiad cyn eu cadarnhau, yn y Senedd. Er enghraifft, mae dwy swydd Cadeirydd Natural England a Chadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn destun y weithdrefn hon.
Yn ogystal, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal gwrandawiadau o'r fath cyn penodi'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gofynnaf, felly, am y cyfle i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gynnal gwrandawiad gyda'r ymgeisydd a ffefrir cyn i chi ei benodi.
Byddai ychwanegu'r cam arall hwn i'r broses yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd o ran y penodiad terfynol; yn cadarnhau dilysrwydd y sawl a benodir; ac yn darparu tystiolaeth o annibyniaeth barn yr ymgeisydd. Mae hefyd o fewn ein dyletswydd i ystyried penderfyniadau gweinidogol fel rhan o'r broses graffu.
Fel yn achos y weithdrefn yn y Senedd, byddem yn adrodd yn ôl ar y gwrandawiad gyda'n barn ar addasrwydd yr ymgeisydd. Ni fyddai hyn yn gyfrwymol arnoch chi, ond byddem yn disgwyl i chi ystyried yr adroddiad cyn gwneud y penodiad.
Ymddiheuraf am gysylltu â chi yn hwyr yn y broses benodi. Yn anffodus, ni chefais fy hysbysu gan gennych chi na'ch swyddogion fod y broses hon wedi dechrau a dim ond y ddiweddar y cefais wybod am yr amserlenni perthnasol.
O ran penodiadau cyhoeddus sylweddol yn y dyfodol, gofynnaf ichi roi gwybod yn ysgrifenedig i'r pwyllgor Cynulliad perthnasol, gyda manylion y broses i'w dilyn a'r amserlen ar gyfer y penodiad cyn i'r broses ddechrau. Gofynnaf ichi, hefyd, ystyried cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd